SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran gweithredadwyedd i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.

Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio yn ei Memorandwm Esboniadol fod y gwelliannau hyn yn “ofynnol o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd” a'u bod “yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â marchnata hadau a deunyddiau plannu ffrwythau i gywiro diffygion o ran gweithredadwyedd na roddwyd cyfrif amdanynt mewn offerynnau diwygio cynharach.”

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

O ran rheoliad 1, teitl y Rheoliadau yn y fersiwn Saesneg yw: “The Marketing of Seeds and Plant Propagating Material (Wales) (Amendment) (EU Exit) Regulations 2022” (ychwanegwyd y pwyslais). Fodd bynnag, yn y fersiwn Gymraeg o reoliad 1, teitl y Rheoliadau yw: “Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022” (ychwanegwyd y pwyslais).

Wrth gymharu’r ddwy fersiwn o’r Rheoliadau, nid yw’n glir pam mae “(Wales)” ac “(Amendment)”, a “(Cymru)” a “(Diwygio)”, yn ymddangos mewn trefn wahanol. O ystyried bod y Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol Cymru, yn hytrach nag offerynnau statudol y DU, ymddengys mai’r drefn a welir yn y fersiwn Saesneg sy’n briodol.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Parthed rheoliad 2(2)(a)(i), yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau, mae’r dyfynodau cau wedi’u hepgor ar ôl “…quarantine pest”)” a chyn “rhodder”. Yn absenoldeb y dyfynodau cau hynny, mae’n bosibl na fydd eglurder ynghylch ble mae'r testun sydd i'w amnewid yn dod i ben, sydd â goblygiadau o ran effaith y rheoliad.

Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg y Rheoliadau hefyd yn cynnwys gwahanol ddulliau o ddefnyddio dyfynodau yn rheoliad 2(2)(a)(i) a (iii). Wrth amnewid testun, mae’r fersiwn Saesneg yn cynnwys dyfynodau sy’n rhagflaenu’r term diffiniedig ym mharagraff A1 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (yn y testun sy’n cael ei amnewid a’r testun newydd). Nid yw’r testun Cymraeg yn cynnwys y dyfynodau hynny. 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Senedd ar gyfer sifftio o dan baragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A. Trafododd y Pwyllgor y drafft hwnnw ar 26 Medi 2022, a chytunodd mai’r weithdrefn negyddol oedd y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn hyn o beth, nodir y frawddeg a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Gan fod y Rheoliadau’n darparu newid cyfyngedig, sy’n effeithio ar nifer bach o unigolion ac nad yw’n adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau adrodd 1 a 2 yn unig.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Hydref 2022